Sioe Stryd Gwyl Ddewi
Ar ddydd Sadwrn Mawrth 1af cynhaliwyd sioe stryd yn stryd y Cei, Rhydaman i ddathlu Gwyl Ddewi. Cafodd y diwrnod ei drefnu gan y Fenter, Cynllun Gweithredu Iaith Rhydaman a TWF. Daeth Jac y Do, Dawnswyr Penrhyd a disgyblion Ysgol Dyffryn Aman i ddiddanu’r gynulleidfa a braf oedd gweld gymaint o bobl wedi dod i gefnogi.
Twrnamaint Chwaraeon
Cynhaliwyd twrnamaint Criced Cyflym blynyddol y Fenter ar ddydd Mercher Mawrth 12fed yn neuadd Ysgol y Bedol, Garnant. Fe gymerodd chwech ysgol gynradd yn yr ardal rhan yn y twrnamaint sef Ysgol Iau Rhydaman, Saron, Brynaman, Blaenau, Llandybie a Ysgol y Bedol. Enillwyr blwyddyn 3 a 4 oedd Ysgol Brynaman a enillwyr blwyddyn 5 a 6.
Dyma luniau o’r timau buddugol:-
No comments:
Post a Comment