Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

5.10.08

CLWB GWAWR RHYDAMAN


Dechreuodd tymor newydd yn hanes Clwb Gwawr Rhydaman a’r cylch ar Nos Iau 18 Medi pan aeth yr aelodau i Glwb Golff y Garnant. Noson glonc ac ymaelodi oedd hon a cafodd pawb hwyl arbennig.
Mae rhaglen amrywiol wedi ei threfnu ar gyfer y tymor gan gynnwys bingo, noson yn theatre y Mileniwm Caerdydd i weld “Flashdance”, bowlio deg, mynd i’r sinema a noson gyri. Byddwn hefyd yn ymuno a chlwb Gwawr Llandeilo ym Mis Mawrth.

Bydd cyfarfod Mis yma ar 16 Hydref ble byddwn yn mynd i chwarae bingo a chael pryd o fwyd yn Taebarns.

Beth am ddod draw i ymuno yn yr hwyl. Am fwy o fanylion cysylltwch ag Ivoreen Williams 01269 845435

No comments:

Help / Cymorth