Cafodd nifer o aelodau Capel Newydd y fraint o fod yn bresennol mewn cyfarfod a gynhaliwyd yng Ngholeg Llanbed ar ddechrau mis medi, pan sefydlwyd y Parchg D. Haydn Thomas yn Lywydd. Un o feibion y Capel newydd yw Haydn, lle mae ei frawd, Eirwyn, yn dal yn aelod ac yn un o’r is-organyddion. Mae chwaer iddynt, Anita, yn byw yn Aberhonddu. Bu Haydn yn weinidog yn ardal Pumsaint, Tyddewi a Salem Treganna, a cam gyfnod, yn gyfarwyddwr Cymru dros yr henoed. Dymunwn pob bendith iddo yn ystod y flwyddyn sydd o’i flaen ac hefyd i’w gymar ffyddlon, Doreen. Meant yn dal i fyw yn ardal Caerdydd.
No comments:
Post a Comment