Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

5.10.08

JUSTIN TIME

Ma'r gantores Shan Cothi a rhai o'i ffrindiau newydd gwblhau taith farchogaeth noddedig o dros 300 milltir o Ogledd Cymru i Gwm Ogwr er mwyn codi arian tuag at yr elusen uchod er cof am wr Shan, Justin Smith (Pepsi Tate) ,a fu farw y llynedd o gancr y pancreas, ac yntau ond yn 42 oed.Yn dilyn tywydd gwlyb tu hwnt, newidiwyd rhywfaint o gwrs y daith , ac alwodd y criw yn y Ganolfan Gymunedol ym Mrynaman, brynhawn Dydd Mawrth,Medi 9fed, cyn cwblhau taith y diwrnod hwnnw yng Nghwmllynfell.Bu staff y ganolfan yn gweini te,coffi a phice ar y ma'n iddynt a rhoi digon o ddwr i'r ceffylau. Ymgasglodd rhyw 15 o bobl er mwyn croesawu'r criw. Roedd rhai ffrindiau wedi anfon cyfraniad ariannol, fely gwnaethpwyd casgliad cyflym ac fe drosglwyddwyd £71 i'r gronfa.

No comments:

Help / Cymorth