Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

5.10.08

CWMNI DRAMA'R GWTER FAWR


Llongyfarchiadau i'r cwmni ar ennill y drydedd wobr yn y gystadleuaeth "Actio Drama Fer" yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni. Roeddent yn perfformio "Cacen Bysgodyn" gan Rhiannon Parry. Aelodau'r cast oedd Siwsan Thomas, Sarah Hopkin, Nia Hopkins, Janet Bowen ,Lisa Lewis Jones, Eifion Price,Aled Davies, Mel Morgans, Euros Jones ac Alan Pedrick.Y cynhyrchydd oedd Anne Walters a'r cofweinydd, Delyth Jones.

No comments:

Help / Cymorth