
Nos Wener, 12 Medi oedd noson lansiad Clwb Hwyl Hwyr yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman. Braf oedd gweld cymaint o blant a rhieni yn bresennol. Cawsom gwmni Rosfa y consuriwr, sef y Parchg Eirian Wyn. Clwb Cristnogol llawn hwyl ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 i 6 yw Clwb Hwyl Hwyr, sydd wedi ei drefnu gan Gapeli tref Rhydaman dan arweiniad Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin.
Roedd Rosfa ar ei orau yn dangos i'r plant mawr a bach wahanol driciau hud a lledrith. Yn ogystal roedd yn defnyddio nifer o'r plant i'w gynorthwyo. Roedd angen gair hud arbennig i wneud i'r "magic" weithio -Y gair hud oedd inky winki Pww!
Rydym yn cyfarfod yn wythnosol ar Nos Wener yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman rhwng 5.30 a 6.30pm. Yn ystod y cyfnod hwn mae’r plant yn cael cyfle i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys gemau, stori, crefft, cystadlaethau ayyb. Mae gennym dîm o wirfoddolwyr ymroddedig a phrofiadol yn gofalu am y plant ac mae yna groeso cynnes i bawb ymuno â ni. Mewn cyfnod sy’n llawn o beryglon ac atyniadau amheus, dyma gyfle gwych i blant gyfarfod â’i gilydd, a mwynhau hwyl a sbri mewn awyrgylch ddiogel a Christnogol.
Diolch i bawb am wneud y noson yn llwyddiant ysgubol.
Diolch i bawb am wneud y noson yn llwyddiant ysgubol.
No comments:
Post a Comment