Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

5.10.08

CYLCH CINIO LLANDYBIE


Ar ddydd Gwener, Mai 2il 2008 fe ffrwydrodd llosgfynydd Chaitèn yn Chile gan chwydu fflamau a mwg filltiroedd i'r awyr. Cariwyd y llwch a'r lludw hynny dros y ffin i’r Ariannin gan effeithio'n ddrwg ar drigolion Godre’r Andes lle mae ‘na gymdeithas Gymraeg gref. Roedd hwn y tro cynta’ i Chaitèn ffrwydro ers mwy na 9,000 o flynyddoedd. Am gyfnod daeth bywyd bob dydd i stop bron gyda siopau a swyddfeydd ar gau a dim trafnidiaeth ychwaith am fod y ffyrdd i gyd ar gau. Roedd yr ysgolion i gyd ar gau am gyfnod gan gynnwys yr ysgolion Cymraeg yn Esquel a Threvelin.
Pan ddigwyddodd hyn roedd trafodaethau eisoes ar y gweill rhwng Menter Iaith Patagonia ag Urdd Gobaith Cymru ynglŷn â’r syniad o ddanfon pobl ifanc o’r ardal i dderbyn hyfforddiant a phrofiad gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru. Felly am fod llawer o ddiddordeb a consyrn ynglŷn a’r sefyllfa yng Nghymru gwnaethpwyd apêl yn y wasg ac ar radio a theledu Cymru yn enw Ysgol Gymraeg yr Andes a Menter Iaith Patagonia.

Fe wnaeth ymateb hael a thwym galon pobl Cymru ein syfrdanu. Daeth lif o gyfraniadau gan gynnwys un gan Cylch Cinio Tybie. Erbyn hyn rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod digon o arian wedi cyrraedd i ni ddanfon dau berson eleni. Yr un cyntaf i gyrraedd bydd Laura Niklitschek (23 oed) o Drevelin. Fe fydd hi’n aros am 6 mis yng Nghanolfan Preswyl Awyr Agored yr Urdd yn Llangrannog. Mae Laura wedi bod yn mynychu gwersi Cymraeg yn Ysgol Gymraeg yr Andes ers dwy flynedd bellach ac fe fydd yn parhau i ddysgu ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion yng Ngheredigion yn ystod ei arhosiad.

Ar ran Ysgol Gymraeg yr Andes a Menter Patagonia hoffwn ddiolch o galon i Gylch Cinio Tybie a phawb arall yng Nghymru a wnaeth y profiad hwn yn bosibl iddi.

No comments:

Help / Cymorth