Yng Ngharmel, ar yr16eg o Orffennaf am 6.30 o’r gloch, cynhaliwyd cyfarfod Sefydlu y Parchedig Gwyndaf Jones, B.D. yn Weinidog yn Eglwys y Tabernacl, Cwmgors yn ychwanegol at Carmel, Gwauncaegurwen , a Bethel Newydd, Y Garnant.
Llywydd y noson oedd y Parchedig Eifion Powell, B.A.B.D. ac yn cymryd rhan yn y gwasanaeth oedd y Parchedigion Ryan Thomas; Geraint R. Hughes; Ddr Geraint Tudur ac Euros Wyn Jones.
‘Roedd yr oedfa yn un fendithiol iawn a chalonogol oedd gweld cynulleidfa mor barchus wedi dod ynghyd.Mae aelodau’r Tabernacl yn ei hystyried yn fraint o gael bod yn gydgyfranogion ậ aelodau Bethel Newydd Y Garnant a’r fam Eglwys Carmel, Gwauncaegurwen, ac edrychwn ymlaen at gyfnod o gydweithio dedwydd a hapus
No comments:
Post a Comment