Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

8.11.08

BYD Y CAWS

Yn ystod y mis diwethaf cynhaliwyd “Gwyl fawr Caws” yng Nghastell Caerdydd. Bu Sian Elin, merch Hywel ac Enid Davies, Heol Pentwyn a’i gwr Steve Peace yn fuddugol mewn dau gategori. Yn gyntaf cipiwyd y wobr am y “caws gorau” yng Nghymru sef Caws Pont Gâr yn cynnwys Garlleg a Pher-lysiau. Yn ogystal, daeth gwobr am y “caws newydd” gorau, sef Caws Gafr, maent yn cynhyrchu ar gyfer y cwmni “Kid me not” o Talley. Llongyfarchiadau i’r ddau ar eu llwyddiant yn yr Wyl bwysig yma.

No comments:

Help / Cymorth