Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

8.11.08

CYMDEITHAS CHWIORYDD GIBEA

Daeth Rhodri Davies, Swyddog Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru, i gyfarfod y Chwiorydd ar 13 Hydref i siarad am y gwaith arbennig iawn a wneir gan y Gwasanaeth hwnnw a da oedd cael cwmni nifer o chwiorydd o gapeli eraill y cylch ar y noson.
Roedd cardiau Nadolig a nwyddau eraill ar werth gan fod yr arian a gesglir drwy werthiant tebyg, a hefyd gwerthiant y siopau elusen wrth gwrs, mor bwysig i ddyfodol y gwasanaeth.
Os oes gan rai o ddarllenwyr Glo Mân rywbeth y gallant gyfrannu at y siopau hynny yna cysylltwch â: 08700 720999 a byddant yn barod iawn i drefnu i’w casglu. Maen nhw’n derbyn dillad, llyfrau, celfi a tipyn o bopeth – cysylltwch â nhw am fanylion
pellach. Pwy a wyr falle bydd un ohonoch chi – neu rhywun sy’n annwyl i chi – yn falch iawn o’u gwasanaeth rhyw ddiwrnod.

No comments:

Help / Cymorth