Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

8.11.08

CYRDDAU DIOLCHGARWCH

Dydd Mawrth Hydref 8fed cynhaliwyd Cwrdd Diolchgarwch Pensiynwyr Tycroes yn y Neuadd Efengylu. Roedd y gwasanaeth o dan ofal Mr Stephen Essery ac fe’i gynorthwywyd gan aelodau eraill o’r Neuadd. Gwasanaethwyd wrth yr organ gan Mrs Ruth Essery. Paratowyd te a melysion ar ôl yr oedfa ac fe ddiolchwyd i aelodau’r Neuadd am eu haelioni unwaith yn rhagor gan Lywydd y Mudiad, Mrs Margaret Davies.
Cynhaliwyd Gwasanaeth Diolchgarwch Ysgol Tycroes yng Nghapel Moreia, prynhawn Ddydd Gwener, Hydref 10fed ac roedd o dan ofal y Prifathro, Mr Mainwaring.

No comments:

Help / Cymorth