Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

8.11.08

CYMDEITHAS YR HENOED

Mae gwrando ar leisiau côr meibion bob amser at ddant aelodau’r gymdeithas. Dyna a gafwyd nos Fercher 1af o fis Hydref pan ddaeth Côr Meibion y Gyrlais i ddiddannu’r aelodau. Croesawyd hwy yn gynnes gan y Llywydd Mr Morlais Pugh. Diolchodd Mr Clive Rowlands (go brin fod eisiau ychwanegu Cwmtwrch!) am y gwahoddiad. Cyflwynodd y cyfarwyddwr cerdd Mr Richard John o Gastell Nedd a Francesca Mungovin y gyfeilyddes o Iwerddon, a’r côr. Cawsom amrywiaeth dda o ganeuon ac emynau. Rhwng yr eitemau gan y côr bu Clive Rowlands yn adrodd storiau am Gwmtwrch, gyda’i frwdfrydedd arferol! Canwyd ein hanthem Genedlaethol i ddod a
noson bleserus i ben.

No comments:

Help / Cymorth