Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

8.11.08

TAITH CANMLWYDDIANT - COR MEIBION LLANDYBIE 1908 -2008


Dyma lun o cysylltydd Glo man ger y rhaeadr yn Niagara ar daith Cor Meibion Llandybie.
Er gwaethaf yr holl anhawsterau a gafwyd cyn y daith, llwyddiant mawr oedd hanes ymweliad Côr Meibion Llandybie, ynghyd â’u ffrindiau i Ganada ac America. Bu dyfodol y dathliad yn y fantol am wythnosau oherwydd methiant dau gwmni teithio a
dim ond trwy ymdrechion dyfal ac amyneddgar yr arweinydd, Mr David Jones, Pontaman, a’r y s g r i f e n nydd Mr Keith Jones, Llandybie, y l lwyddwyd i achub y daith ond hynny ar gost ychwanegol o £55,000 i’r côr a’i cefnogwyr!
Gwenodd y tywydd ar bawb trwy gydol y daith ac wrth groesi Mynyddoedd Appalachia o Ganada i America gwelwyd lliwiau’r hydref yn eu gogoniant. Niagara Falls, Canada, oedd y pencadlys yn ystod yr wythnos gyntaf. Rhyfeddod naturiol trawiadol yw’r rhaeadr a bu pawb ar y “Maid of the Mist” i fyny at geg nerthol y rhaeadr. Yn Niagara-ar-y-llyn - un o drefi mwyaf hynafol Canada - oedd y gyngerdd gyntaf. Cafwyd croeso cynnes iawn yn Eglwys Sant Marc, gyda’r lle yn orlawn.

Philadelphia, sef dinas frawdgarwch, oedd ein canolfan yn yr ail wythnos. Cynhaliwyd un gyngerdd yno, yr un o Dai Cyfarfod yr Undodiaid. Yr oedd hon yn ddinas hardd a diddorol iawn - un o ddinasoedd mwyaf hanesyddol America - fan hyn cyhoeddwyd
annibyniaeth yr Unol Daleithiau ac yma hefyd llofnodwyd Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau. Aeth nifer fawr o’r grwp i ymweld â Chymuned yr Amish, tu allan i Philadelphia.
O Philadelphia yr oedd dwy daith arall wedi eu trefnu - un i Efrog Newydd ag un i Washington D.C. Diddorol a chyffrous oedd cael y cyfle i gerdded ar ddiwrnod braf, yn Central Park, gweld yr adeiladau anferth, Ground Zero a phrysurdeb y ddinas sydd
“byth yn cysgu”. Yn wir, i lawer ohonom yr oedd fel cerdded mewn ffilm.
Yr oedd Washington yn dra gwahanol gyda’r adeiladau enwog sef Y Ty Gwyn a’r Capitol, ynghyd a’r cofadeiladau a chofgolofnau enwog. Ymwelodd rhai â’r amgueddfa Awyr-Ofod, tra aeth eraill i amgueddfa newydd Pobl Brodorol America, ac eraill
i Amgueddfa Gwyddoniaeth Hanes Naturiol - felly rhywbeth at ddant pawb.
Cyn dychwelyd o Ogledd America cymerodd y Côr rhan yng ngwasanaeth Bore Sul Sant Marc, Niagara-ar-y-llyn. Cafodd pawb fendith mawr o’r wasanaeth. Yr oedd gwragedd yr Eglwys wedi paratoi gwledd o fwyd i bawb. Ffordd hyfryd a chyfeillgar iawn i ddod â thaith fythgofiadwy i ben.

No comments:

Help / Cymorth