Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

9.12.08

Y daith gefeillio i Pouldergat

Bu Priscilla Jones a Phwyllgor Gefeillio Cwmaman wrthi’n ddyfal am flwyddyn gyfan yn ein cyfarfodydd misol yn yr Angel yn Nhircoed yn paratoi am ein hymweliad gyda’n gefeilldref, sef Pouldergat yn Llydaw. O’r diwedd, gwawriodd y dydd mawr ar Fore Llun, y 25ed Hydref, wrth i ddau ddeg dau ohonom ymuno â bws y Brodyr Williams, yng ngofal Clive y dreifiwr a’i wraig, ym Mhont Abraham.
Cawsom daith hwylus ar yr M4 i Fryste ac oddi yno lawr i Lanfa’r Fferi yn Plymouth. Bu’r môr yn eithaf esmwyth ar y daith dros nos draw i Lydaw er gwaethaf pryderon Catrin, a oedd yn dueddol i ddioddef wrth ‘mal de mere’, ymadrodd y Ffrancwyr am salwch y môr. Yn wir, cafodd neb amser i deimlo’n sâl am fod y cabaret bywiog ar fwrdd y llong yn mynd ymlaen tan oriau mân y bore. Roedd yno ryw D.J., a oedd yn eithaf tebyg ei ddull i ‘Jonesy’ ar Radio Cymru, yn trefnu cystadleuthau canu rhwng Cwmaman a chriw o Gernyw. Dywedodd fod ganddo ddau gant a hanner o bunnoedd i’w rhoi yn wobr i’r enillwyr and gwelodd neb liw ei arian ar ddiwedd nos.
Ar ôl cyrraedd Roscoff am wyth o’r gloch y bore, roedd gennym deir awr o daith ar ein bws i’r Hotel Oceania yn Quimper, lle’r oeddem yn sefyll am yr wythnos. Treuliwyd gweddill y dydd yn crwydro o gwmpas y ddinas hardd hon a adeiladwyd o gylch yr afon a redai drwy’r canol. Ar y Dydd Mercher, gwnaethom ymweld â Concameau a Locronan, llefydd hynod o hardd ar lan y môr. Yna, yn uchafbwynt i’r wythnos, fe’n croesawyd gan ein gefeilliaid Llydawaidd i ginio draddodiadol ar y Nos Iau ym Mhouldergat. Cafwyd noson fendigedig o adloniant gydag aelodau o Lleisiau’r Cwm yn cyfrannu’n helaeth iawn, a chafwyd unawdau gan Rhian ac hefyd eitem ar y Delyn gan Catrin (gyda diolch o galon i Jayne am ddod â’i thelyn gyda hi ar ein taith). Cyfranodd Catrin yn helaeth trwy fod yn gyfeilydd ac anghofiwn ni fyth yr Unawd alaw werin ganddi. Diolch o galon i Catrin am ei hymroddiad fel ein cyfeilydd ac arweinydd medrus dros ben. Cafodd yr iar fach wen ei phlufio yn fwy nag unwaith yn y modd mwyaf dramatig o dan arweiniad Mari ac Andrea. Yfwyd ambell wydriad o win i ddathlu’r achlysur.
Bu’r môr yn eithaf stormus ar adegau yn ystod y croesiad nôl o Roscoff i Plymouth ond er gwaethaf yr olion salwch fan hyn a fanco roedd pawb mewn hwyliau arbennig o dda wrth i ni gyrraedd nôl ym Mhont Abraham am ddau o’r gloch ar y Bore Sadwrn
ar ôl wythnos fythgofiadwy. Edrychwn ymlaen at groesawu ein ffrindiau Llydewig yn ôl i’r Cwm yn y Gwanwyn.

No comments:

Help / Cymorth