Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

13.12.08

Plygain Hen Fethel

Cynhelir Plygain y Nadolig eleni yng nghapel Hen Fethel i gychwyn am 6.30 o’r gloch ar fore y Nadolig. refnydd di-flino y gwasaneth hyfryd hwn yw Linden Evans 84Tirycoed, Glanaman. Bydd Linden yn hapus iawn i gael clywed oddi wrth unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymeryd rhan ac os felly a fyddwch gystal â chysylltu ag ef ar 01269 826021.
Hefyd mae Linden yn daer eisiau gwybod os oes rhywun yn fodlon i gynnau’r tân am 4.30 a.m. ar fore’r Nadolig ar gyfer y gwasaneth unigryw hwn. Mae siwr o fod gwirfoddolwr da yn eich plith yn barod i wneud (dyw Terry Ward yn methu a gwneud
eleni gan ei fod ddim adref dros yr Wyl) – os felly cysylltwch â Linden. Mi fydd yn ofnadwy o beth petai yr arferiad hanesyddol hwn yn dod i ben gan fod neb ohonom yn fodlon codi yn gynnar i gael gwres yn y capel. Gwnewch eich gorau glas i helpu. Diolch yn fawr.

No comments:

Help / Cymorth