Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

8.11.08

YMADAWIAD Y PARCH SUZY BALE

Nos Iau, Medi 25ain daeth llu o aelodau Eglwysi San Mihangel, yr Holl Saint Rhydaman a Dewi Sant, y Betws at ei gilydd yn Neuadd yr Eglwys, Rhydaman i ffarwelio â’r Parchedig Suzy Bale a fu’n Gurad yma ers dwy flynedd.
Talwyd teyrnged iddi gan Archddiacon Caerfyrddin, Parch. Alun Evans a gan Canon Dewi Thomas ar ran y plwyf. Dywedwyd iddi fod yn ysbrydoliaeth yn ei ffordd ddymunol o ddelio â phobl a’i brwdfrydedd yn holl weithgareddau’r Eglwys. Talwyd teyrnged yn arbennig iddi, a hithau’n frodor o Gaerfaddon, am y ffordd y dysgodd y Gymraeg, fel y gallodd arwain y gwasanaethau a phregethu yn yr iaith honno.
Cyflwynwyd siec iddi a chafwyd bwffe a drefnwyd gan wragedd y plwyf, cyn dymuno’n dda iddi ym mhlwyf Llanbedr Pont Steffan. Mawr yw ein colled ni yma.

No comments:

Help / Cymorth