Ar ddechrau mis Hydref cynhaliwyd Eisteddfod Calfaria, Garnant a chafwyd Eisteddfod lwyddiannus y tu hwnt eleni eto. Yr oedd plant Ysgol y Bedol yn cymryd rhan yn yr adran leol, ac yn wir, cafwyd llu ohonynt yn cystadlu ar yr Unawdau ac Adroddiadau, ac hefyd ar yr offerynnau. Roedd hyn yn glod i’r ysgol, gan gofio bod y disgyblion i gyd o dan ddeuddeg oed. Roedd y lle yn llawn rhieni a ffrindiau a pherthnasau i’r plant a chafwyd safon arbennig o dda. Diolch o galon i chwi, Brifa t h r awes ac Athrawon yr Ysgol, am baratoi y plant mor drylwyr ar gyfer yr achlysur arbennig hwn.
Yn yr adran agored, bu plant ac oedolion o bob cwr o’r wlad yn cystadlu ac roeddent yn Eisteddfodwyr pybyr ac yn bleser gwrando arnynt. Balch gennym ddatgan bod yr adran hyn hefyd wedi dennu nifer o gystadleuwyr, gan gynnwys pedwar cystadleuydd ar yr Her Unawd a chwech ar yr Her Adroddiad.
Arweinyddion y dydd oedd Mr John Williams a Mrs Jane Cousins. Y Beirniad Cerdd oedd Mr Gwyn Nicholas, Llanpumpsaint a Mrs Mair Wyn, Glanaman oedd ar yr Adrodd. Cyfeiliwyd gan Mrs Gloria Lloyd, Rhydaman.
Cafwyd araith bwrpasol iawn gan Faer Cwmaman, sef y Cynghorwr Dafydd Wyn, a ddwedodd mor falch oedd y Cyngor bod Eisteddfod y Garnant yn mynd o nerth i nerth, a chyflwynodd rhodd ariannol ar ei rhan. Mawr yw dyled y Pwyllgor gweithgar i bawb a gyfrannodd. Diolch yn fawr iawn.

No comments:
Post a Comment