Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

8.11.08

Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru

Mae CFfI Cymru yn cynnal yr unig Eisteddfod genedlaethol ddwyieithog yng Nghymru, sy'n golygu bod gan bob un o'n haelodau cyfle cyfartal i gymryd rhan ar y llwyfan. Mae'r aelodau yn cystadlu mewn rowndiau rhanbarthol am le yn Eisteddfod Genedlaethol CFfI Cymru. Mae'r Eisteddfod yn cynnal amrywiaeth o gystadlaethau o unawdau a llefaru yn unigol i gystadlaethau grfip megis y côr. Hefyd ceir llawer o gystadlaethau ysga f n galon megis y deuawd doniol. I'r rhai nad ydynt mor hyderus ar y llwyfan mae cystadlaethau oddi ar y llwyfan ar gael ar gyfer ysgrifennwr ac arlunwyr.
Eleni cynhelir yr Eisteddfod yn Sinema Brynaman ar 22 Tachwedd i ddechrau am 11 y bore. Pris mynediad fydd £5 i oedolion a £3 Plant a Henoed

No comments:

Help / Cymorth