Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

6.11.08

PRIODAS DDIEMWNT


Diwedd mis Gorffennaf eleni yr oedd Dr. Frank a Mrs Muriel Powell yn dathlu chwe deg o flynyddoedd priodasol a daeth llawer o’r cwm ynghyd i’w llongyfarch. Cafwyd y dathlu yng nghartref y ddau ac roedd gwahoddiad cynnes i bawb a ddymunai i alw
heibio. Hyfryd iawn oedd y wledd a baratowyd ganddynt i groesawu perthnasau, ffrindiau a chymdogion. Y mae’r ddau berson yma yn fawr eu parch yn y gymuned ac yn weithgar dros ben.
Bendithiwyd hwy â thri o blant a bellach maent yn Famgu a Thadcu, ac hefyd yn Hen Famgu a Hen Datcu. Ar rhan darllenwyr Glo Mân, dymunwn bobhwyl iddynt i’r dyfodol a iechyd da.

No comments:

Help / Cymorth