Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

1.11.08

YSGOL Y BEDOL YN DATHLU

Llongyfarchwn Staff a Disgyblion Ysgol y Bedol ar ennill y Faner Werdd am y Project ‘Eco’ am eu gwaith canmoladwy yn ailgylchu Papur, Plastic a Metalau a’u hymdrechion i glanhau’r amgylchfyd. Cafwyd cyngerdd arbennig yn neuadd yr ysgol o dan ofal Mr Gareth James, eu hathro, i ddathlu eu llwyddiant. Yn y llun gwelir disgyblion yn dal y Faner y tu allan i Ysgol y Bedol gyda Maer a Maeres Cwmaman a Chefnogwyr yn y cefndir.
Pob hwyl i’n pobl ieuanc yn eu brwydr yn erbyn llygredd. Mae dyfodol ein planed yn eu dwylo hwy.

No comments:

Help / Cymorth