Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

29.12.08

Adran Amanw, Brynaman

Hyfryd yw gallu cyhoeddi i Adran Amanw ail ddechrau ar nos Fercher, 19 Tachwedd, gyda pharti a disgo yn yr Aelwyd. Daeth tua 30 o blant ynghyd a da oedd eu gweld yn mwynhau eu hunain yn dawnsio, sgwrsio – a gweiddi (!) - yn fyrlymus, a hynny drwy
gyfrwng y Gymraeg.
Bydd yr Adran yn cyfarfod bob nos Fercher, 6 – 7.30, a gobeithio y gellir gweld y nifer yn codi’n uwch fel bydd y tymor yn mynd yn ei flaen. Cofiwch ledaenu’r neges i’r plant 7-11 oed yn y pentref, bydd croeso a hwyl yn ei disgwyl.

No comments:

Help / Cymorth