Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

19.1.09

BLWYDDYN NEWYDD DDA

Wrth ddymuno cy farchion cynnes y flwyddyn newydd i holl ddarllenwyr Glo Mân rwyn ymwybodol, fel pawb ohonoch chi, i’r flwyddyn ddechre gyda’r tymheredd yn is o lawer nag y bu am sawl blwyddyn.
Braf cael dwyn ar gof un o’r hen benillion y byddem yn arfer ei ganu fel plant yn sôn am godi’n y bore a rhesi’r tân – ai cyfeiriad at y tân glo agored gyda’r cnape glo yn rhesi sgleiniog arno? Wel tân agored neu wres canolog gwnech yn siwr eich bod yn gofalu am eich hunain yn y tywydd gaeafol yma.
Wrth groesawu 2009 mae mwy na’r arfer o anhwyldere. Mwy yn dioddef o anwydydd neu hyd yn oed y ffliw ac mae adranau brys ein hysbytai tu hwnt o brysur gyda phobl wedi cwympo gan gracio neu dorri asgwrn.
Mae’r hen bennill o’r gyfrol Telynegion Maes a Môr yn real iawn i ni ar hyn o bryd –

Wyt Ionawr yn oer
A’th farrug yn wyn;
A pha beth a wnaethost
I ddwr y llyn?
Mae iâr fach yr hesg
Yn cadw’n ei thy,
Heb le i fordwyo
Na throchi ’i phlu.

Ga’i eich hannog i gadw’n gynnes – gwisgwch ddillad addas a sawl haenen pan fydd yn rhewi. Yfwch ddigon o ddiodydd twym a da chi’r henoed peidiwch a mentro mâs i gerdded pan fydd llwydrew’n drwm o dan draed.
Mae hefyd yn galedu economaidd a bydd y wasgfa ariannol yn gadael ei hôl ar ein dyffryn fel pob ardal arall. O bosib fod y cyfan yn dod yn realiti gyda chau Siop Woolworth yn Rhydaman. Pan yn yr ysgol ramadeg roedd galw yn Woolworth yn digwydd yn weddol amal gan mai fanna oedd y cownter pick & mix. Atgofion melys am daffys blasus.
Eto, ar yr un pryd ry’ ni fel papur yn cofio am bawb sydd wedi neu’n debygol o golli ei waith yn y cyfnod anodd yma.
Pob bendith yn ystod 2009 – Golygydd

No comments:

Help / Cymorth