Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

29.12.08

Ymddiriedolaeth y Tywysog

Yn ddiweddar fe gafodd Heledd Jones o Lanaman y pleser o gyfafod â’r Tywysog Charles. Bu Heledd yn ddigon ffodus i dderbyn rhodd oddi wrth Ymddiriedolaeth y Tywysog er mwyn hybu busnesau yng Nghymru ac fe’i cyfarfu yn Llanhilleth, Blaenau Gwent, i ddiolch iddo.
Mae Heledd yn un o’r rhai cyntaf yng Nghymru i elwa o’r Rhaglen Busnes yma ac fe fydd o gymorth mawr iddi i gefnogi ei busnes o gynllunio a chynhyrchu cardiau ac offer cartref yn yr iaith Gymraeg.
Yn ôl Heledd mae yna alw mawr am ddefnydd o’r fath yn enwedig rhai sydd wedi eu cynhyrchu i safon uchel a chan fod y rhain yn tueddu i gostio mwy dyma ble y bydd y rhodd ariannol oddi wrth y Tywysog mor ddefynddiol.
Cychwynodd Heledd ei busnes y llynedd ac fe ellir gweld ei chynnyrch yn Siop Cartref yn yr Arcêd, Rhydaman ac ar y wê drwy glicio ar www.adrahome.com.

No comments:

Help / Cymorth