Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

14.12.08

Ysgol Gwaun Cae Gurwen - Coal House at War

Yn dilyn ymgyfraniad teulu’r Griffiths i raglen lwyddiannus “The Coal House” yn ddiweddar, cynhaliodd Ysgol y Waun ddiwrnod i nodi diwedd y gyfres. Croesawyd Callum Griffiths nôl i’r ysgol a rhoddwyd blas i blant yr ysgol o fywyd adeg yr Ail Ryfel Byd. Roedd y diwrnod yn clymu’n amserol iawn wrth ddathliad 90 mlynedd ers y cadoediad ym 1918.Aeth y plant a phob aelod o staff ati i wisgo dillad o gyfnod y 40au a pharatowyd arddangosfeydd ar hyd a lled yr ysgol i ddangos offer cartref ac ysgol y cyfnod ac i roi blas ar fywyd caled yr adeg honno.

Yn dilyn gwasanaeth ysgol byr i osod patrwm a blas y dydd, aeth y plant ati i brofi pedwar gwahanol weithdy yn ystod y bore. Cawson nhw gyfle i ddysgu caneuon adeg y rhyfel a chyfle i ddysgu pam oedd dogni (rationing) yn bwysig ac effaith hynny. Canfyddon nhw sut oedd dogni’n gweithio a chafon nhw gyfle i flasu bwyd y cyfnod - gan gynnwys y “malt extract!”
Roedd amrywiaeth o arteffactau ar gael i’r plant drafod a phrofi gan gynnwys y bwrdd sgrwbio a’r bath tin, y pen a’r inc o’r ysgol …. a’r gansen! Yn y pedwerydd gweithdy, bu’r plant wrthi’n gwneud torchau pabi ar gyfer eu gwasanaeth coffa'r bore canlynol.Wrth lwc, roedd y teulu Griffiths yn gyfan am y prynhawn a gallodd Kieran, Callum, Mandy, Rose a Howell rannu tipyn am eu profiadau. Daeth nifer o drigolion lleol i ymuno yn awyrgylch anffurfiol y prynhawn ac i rannu eu hatgofion, eu profiadau a’u storïau gyda’r plant a chyda'i gilydd. Roedd hi’n fraint cael cwmni pentrefwr hynaf Gwaun-Cae-Gurwen, Mr Dai Collins sy’n 102 mlwydd oed sydd yn cofio’r ddau Ryfel Byd. Siaradodd yntau am gyfnod am ei fywyd a’i atgofion gan ateb nifer o gwestiynau wrth y plant.





Roedd hi’n fraint ac yn anrhydedd i’r plant gael profi hanes byw ar ei orau. Cafodd pawb foddhad mawr yn gwrando ar hanesion o’r “Coal House” ac yn dysgu dawnsfeydd y cyfnod o dan arweiniad pencampwyr “Stack Square” Mandy a Kieran.Daeth y diwrnod i ben yn neuadd yr ysgol gyda chydganu hen fasiwn. Roedd pawb wrth ei fodd yn canu “It’s a long way to Tipperary,” “Pack up your troybles,” “Bless ‘em all” a “We’ll meet again.”





Codwyd y to a chynnwyd hyd yn oed ryw damaid o hiraeth fan hyn a fan draw. Hoffai’r ysgol achub ar y cyfle i ddiolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant ysgubol y dydd. Roedd yn “Ddiwrnod i Gofio” ym mhob ystyr

No comments:

Help / Cymorth