Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

14.12.08

Ebeneser, Rhydaman “Cneifio’r Bugail”

Nos Wener, Hydref 17eg cynhaliwyd cyfarfod arbennig a gwahanol yn Festri Ebeneser, Rhydaman. Am beth amser teimlwyd yn gryf ymhlith yr aelodau fod angen trwsio tipyn ar y Capel a’r Festri. Felly aethpwyd ati i ddechrau gan osod ffenestri a drysau newydd trwy’r adeiladau. Fel y gwyr y mwyafrif, y mae ein Gweinidog, y Parchg John Talfryn Jones, wedi bod yn berson barfog ers chwarter canrif. Felly, er mwyn cadw ffocws yr eglwys ar y gwaith mawr hwn, gofynnodd un o’r diaconiaid a fyddai yn
barod i eillio’r farf er nawdd - “sponsorship”.
Cytunodd â’r cais ar unwaith gan ofyn i’r arian a gesglid o’r fenter fynd i dalu am ffenest yn y Capel er cof am y diweddar Barchg Garfield Eynon a fu yn Weinidog yma o 1962 i 1975. Dyma oedd yr ysbardun i gychwyn y gweithgareddau.
Bu’r noson o dan lywyddiaeth y Parchg Lyn Rees, Saron, a chafwyd hwyl arbennig wrth weld y farf yn disgyn yn dalpiau fel eira gwyn i’r llawr, a moelni gên y Gweinidog
yn datguddio’i hun. Yr oedd yn anodd cyfarwyddo â’r “facelift” newydd, er mai y farn yn gyffredinol oedd ei fod yn edrych flynyddoedd yn ifancach - y mae eisoes wedi ei thyfu yn ôl gyda llaw! Keith, y Barbwr lleol fu wrthi’n cyflawni’r gwaith.
Yr oedd yn dda cael gweld y Festri yn llawn, a phawb wedi mwynhau paned o de a chacennau. Talodd criw camera o Tinopolis, Llanelli ymweliad â ni, a’r prynhawn dydd Llun canlynol cafwyd eiliadau o’r digwyddiad ar gychwyn rhaglen “Wedi 3”.
Darllenwyd penillion hefyd i nodi’r achlysur gan fardd o Ogledd Cymru.


Hyd yn hyn, casglwyd £2,610 trwy’r fenter, ac mae arwyddion y bydd y swm yn dringo ychydig bach yn uwch eto! Sylweddolwn mai megis dechrau y mae’r gwaith, ond diolchwn am haelioni rhai o’n haelodau a hwythau eisoes wedi talu am rai o’r ffenestri er cof am eu hanwyliaid. Parhaed ein hymdrechion felly gan gofio am y rhai a fu yma o’n blaen yn codi’r capel, a ninnau wedi mynd i mewn i’w llafur hwynt. Ein
gorchwyl nawr yw ceisio gosod ei Dy Ef mewn trefn er mwyn yr oesoedd a ddêl. Yng ngeiriau’r diweddar Barchg T. R. Jones,


I’r yfory newydd, O ein Duw,
dy law i’n tywys dod
dysg ni i gadw’r fflam yn fyw
Er mwyn dy air a’th glod.

No comments:

Help / Cymorth