Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

14.12.08

Merched y Wawr y Gwter Fawr

Cwis Hwyl Cenedlaethol Merched y Wawr Nos Wener, Tachwedd 7fed, bu aelodau o Gangen y Gwter Fawr yn cymryd rhan yn y cwis yn Rhanbarth Gorllewin Morgannwg ac fe ddaeth un tîm yn gydradd gyntaf gyda Changen Treforys. Yr aelodau hynny oedd Val Meggicks, Sarah Hopkin, Margaret Jones ac Eiry Thomas. Llongyfarchiadau.

Yn nghyfarfod Cangen y Gwter Fawr o Ferched y Wawr ar nos Wener, 14 Tachwedd, clywyd am beth o hanes, cysylltiadau ac arferion y Nadolig gan y wraig wadd Mrs Einir Jones a’n diddorod ni i gyd yn ei ffordd ddihafal ei hunan. Roedd hi’n hyfryd cael ei
chwmni.
Mae pawb nawr yn edrych ymlaen at ein hymweliad – blynyddol erbyn hyn – â’r Ffair Nadolig yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn Sain Ffagan ddechrau mis Rhagfyr.

No comments:

Help / Cymorth