Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

14.12.08

Gwallt gan Gail

Roedd digon o gyffro a sbri yn siop trin gwallt Gail fore Iau y 9ed o Hydref, pan ddaeth Eleri Sion ( Radio Cymru ) ậ’i meicroffon yno. Bu’n sgwrsio ậ’r cwsmeriaid a phentrefwyr oedd wedi galw heibio. Un o’r cyntaf oedd Mrs Ann Walters yn llawn bywyd, fel arfer, Mrs Ann Lewis ậ’i phice madarch, bu hi’n ddigon dewr i adael i Eleri Sion roi cynnig ar olchi ei gwallt! Tra roedd ei gŵr Gerald a Mr Dai Collins yn cofio am eu hamser o dan ddaear, a holi hynt hwn a’r llall. Mae cof Mr Dai Collins yn wych o gofio ei fod yn 102 oed, a mae’n barod ei gefnogaeth bob amser. Yn naturiol roedd gŵr Gail, Gareth yno a diolch iddo am y llun. Roedd Eleri Sion wrth ei bodd.

No comments:

Help / Cymorth