Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

13.12.08

Jamboris Menter Bro Dinefwr


Cafwyd taith Jamboris gyda Martyn Geraint yn ardal Menter Bro Dinefwr dros 4ydd a 5ed o Dachwedd. Ar y diwrnod cyntaf dechreuodd Martyn Geraint ei daith yn y Tywi, yn y bore roedd e’n diddanu’r plant yn Neuadd Ddinesig Llandeilo ac yn y prynhawn aeth i ardal Pantycelyn i gynnal sioe yn Neuadd Ysgol Pantycelyn. Ar yr ail ddiwrnod daeth bron i 500 o blant i weld Martyn ar daith yn yr Aman, yn Ysgol y Bedol yn y bore ac yn Ganolfan yr Aman yn y prynhawn.
Cafwyd dau ddiwrnod ardderchog ac roedd ymateb hwylus y plant tuag at Martyn Geraint yn profi pa mor llwyddiannus oedd y daith. Hoffwn ddiolch i holl ysgolion yr ardal am eu cefnogaeth ar y daith yma a hoffwn hefyd ddiolch i Martyn Geraint am ei sioe ffantastig eleni eto.

No comments:

Help / Cymorth