Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

13.12.08

Cwrdd Chwarter

Prynhawn Iau, Tachwedd 13eg cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Cwrdd Chwarter Cyfundeb Annibynwyr Dwyrain Caerfyrddin a Brycheiniog ym Moreia, Tycroes. Llywyddwyd gan y Parchg Dewi Evans, Y Bryn, Llanelli gyda chefnogaeth yr ysgrifennydd, y Parchg Dyfrig Rees, Tycroes. Cymerwyd at y rhannau arweiniol gan Geraint Roderick a Mrs Mary Thomas, Moreia ac fe groesawyd y cynrychiolwyr i Foreia gan Elfryn Thomas, ysgrifennydd yr eglwys. Miss Stephanie Davies oedd wrth yr organ.
Dilynwyd y gynhadledd gyda chyflwyno’r Beibl i’r llywydd newydd, Emyr Wyn Thomas, Bethania’r Tymbl. Yna traddododd y Parchg Dewi Evans ei anerchiad o’r gadair pryd y pwysleisiodd y pwysigrwydd o gadw at egwyddorion syflaenol yr efengyl yn ein heglwysi. Gweinyddwyd y cymun gan y llywydd newydd, Emyr Wyn Thomas. Unwaith yn rhagor bu’r chwiorydd yn brysur ac fe baratowyd lluniaeth blasus ar ein cyfer yn y festri yn dilyn yr oedfa.

No comments:

Help / Cymorth