Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

25.1.09

CYLCH CINIO LLANDYBIE

Noson o hud a lledrith oedd ein cyfarfod ym mis Rhagfyr yng nghwmni hawddgar y Parchg Eirian Wyn o Frynaman. Mae Eirian yn ddyn aml-dalentog, - yn weinidog gyda’r Bedyddwyr, yn gyflwynydd gyda’r BBC, cyhoeddwr yn y Gymraeg yn Stadiwm Liberty Abertawe (cartref newydd y Gweilch a thîm peldroed yr Elyrch), yn ogystal â bod yn gonsuriwr dawnus. Noson ysgafn yng nghwmni’r consuriwr Rosfa a gafwyd, a diolch am ein diddori mewn modd mor ddoniol.
Roedd y noson o dan ofal Gareth Jones, Ron Isaac offrymodd y fendith cyn y pryd bwyd, a diolchwyd i’r gwr gwadd gan Arwel Davies.
Yng nghyfarfod Ionawr y Parchg John Walters, ficer Pontarddulais oedd y gfir gwadd. Cewch yr hanes y tro nesaf. Dylsai’r aelodau gysylltu â’r ysgrifennydd Hywel ar 01269 850748 yn ystod y penwythnos cyn ein cy farfodydd os nad yw’n fwriad ganddynt fod yn bresennol. Mae hyn yn holl bwysig gyda trefniadau’r bwyd.

No comments:

Help / Cymorth