Roedd Apêl Nadolig Eglwysi Rhyddion Brynaman i godi arian i helpu’r gwaith sy’n digwydd mewn canolfan newydd yn Ysbyty Singleton Abertawe – Ty Maggie. Fe wyr pawb am yr adran oncoleg wych sydd yn yr ysbyty gyda chleifion sy’n diodef o ganser yn teithio o bell ac agos er mwyn derbyn triniaeth yno.
Mae Ty Maggie yn ychwanegiad at y driniaeth feddygol a gynigir. Mae’n ganolfan sy’n annog cleifion i alw heibio am sgwrs gan fod trafod gydag eraill yn gallu bod yn therapiwtig i’r dioddefwr.
Yr hyn a wnaeth Cymdeithas Capel Moriah oedd trefnu noson gyri yn y Sunderban yn Rhydaman. Diolch i bawb a gefnogodd. Roedd yn noson hyfryd gyda llu o ffrindiau wedi cefnogi’r aelodau. Fe gafodd bawb lond bola i’w fwyta ac roedd y cymdeithasu yn
fonws. Llwyddwyd i godi swm anrhydeddus ac mae’r capel wedi trosglwyddo £675 i gronfa’r apêl.
Ar nos Iau 5 Chwefror bydd cyfraniadau’r holl gapeli yn cael eu trosglwyddo, gyda Liwsi Kim Davies (Protheroe gynt) yn derbyn y siec ar ran y ganolfan. Mae Liwsi sy’n aelod yng Nghapel Hermon yn enetegydd (geneticist) yn Ysbyty Singleton ac yn gweithio gyda chleifion sy’n dioddef o ganser a’u teuluoedd. Gobeithio y daw torf dda i wrando - 7 o’r gloch, Capel Hermon.
No comments:
Post a Comment