Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

21.1.09

Prosiect Fideo Cerddoriaeth Ieuenctid


Prosiect Fideo Cerddoriaeth Ieuenctid Dyffryn Aman Mae fideo cerddoriaeth Partïo’n Saffach i fynd ar daith o gwmpas clybiau ieuenctid yr ardal. Yr wythnos ddiwethaf, yng Nghlwb Rygbi Brynaman, cafwyd lansiad glitsi mawreddog o fideo cerddoriaeth ieuenctid lleol ‘Higher - Uchela’, wedi’i ysgrifennu, ei gynhyrchu a’i berfformio gan yr artist lleol Tom Hamer a 23 o bobl ifanc Dyffryn Aman. Daeth dros 100 o westai arbennig o amrywiol grwpiau a mudiadau lleol i’r digwyddiad ysblennydd yma. Cyflwynodd Claire Mansel Lewis, Uchel-Siryf Dyfed, wobrau a thystysgrifau i’r holl bobl ifanc a fu’n cynhyrchu ac yn perfformio yn y ffilm.
Cyflwyno tystysgrifau ym Mrynaman Cafodd y prosiect dwyieithog arloesol hwn, a arweiniwyd gan ieuenctid, ei drefnu ar y cyd gan Gymunedau yn Gyntaf Dyffryn Aman Uchaf, Cwmni Theatr Mess up the Mess, Menter Bro Dinefwr, Cwmni Teledu Tinopolis a Chyswllt Sir Gaerfyrddin. Cafwyd cymorth caredig i’r prosiect oddi wrth Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gâr, Partneriaeth Bobl Ifanc Aman a Gwendraeth a Fforwm Ieuenctid Aman. Daeth bobl ifanc o Ddyffryn Aman gyfan, o Landybie i Frynaman, at ei gilydd i fod yn rhan o’r prosiect, a diolch am gymorth oddi wrth brosiect amgylcheddol UNA Cyfnewid yng Nglanaman.
Mae’r ffilm yn cynnwys pobl ifanc o bellafoedd byd - o’r Eidal a hyd yn oed Fietnam – pawb yn gwneud eu rhan yn y ffilm!
C a fodd y fideo cerddoriaeth, sy’ wedi’i gynhyrchu mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg, ei greu dros gyfnod o saith mis gan aelodau ifanc BASE a Theatr Ieuenctid Mess Up The Mess ac mae hefyd yn cynnwys aelodau ASBO (All Skate Boarding Outcasts) ac unigolion ifanc eraill.
Wedi’i lleoli mewn parti mewn ty, mae’r ffilm yn mynd i’r afael â’r broblem o bobl ifanc dan oed yn goryfed mewn pyliau, a’r canlyniadau sy’n dilyn hy n . Dywedodd Peri T h o m a s, Rheolwr Celfyddydau Ieuenctid cwmni theatr Mess Up The Mess “ roedd y broses o wneud y fideo yn llwyddiant mawr ac roedd yn cynnwys nifer o bobl ifanc brwdfrydig ac ymroddgar rhwng 13 ac 19 oed. Erbyn hyn, ’dyn ni’n cydweithio ar godi
proffil y fideo cerddoriaeth er mwyn ei ddefnyddio fel offeryn trafod mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid i godi ymwybyddiaeth a d e a l l t w riaeth o sut mae’n bosib mynd ati i
bartio’n saffach”.
Os hoffech chi fwcio’r DVD ar gyfer eich grwp ieuenctid chi neu hoffech gael gwybod sut y gallwch gymryd rhan mewn unrhyw brosiect fideo cerddoriaeth yn y dyfodol, cysylltwch â Peri ar 07966 294 188, e-bostiwch info@ messupthemess. c o.uk neu y dolenni g we fan i’r prosiect trwy www.messupthemess.co.uk

No comments:

Help / Cymorth