Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

22.3.09

Ymddeoliad y Parchedig Ganon John H. Gravel, BA

Daeth ymddeoliad y Canon Gravel o'r weinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru ar 31 ain Ionawr 2009. Ei blwyf olaf oedd Llandybie gyda Llandyfan a St Marc Cwmcoch, Ile bu'n ficer am dros dair mlynedd ar ddeg, gydag adeg o chwe mlynedd yn gwasanaethu hefyd fel Deon Bro, Dyffryn Aman.
Fe'i ganed yn Llanymddyfri yn 1945 lle'r oedd ei dad yn gurad, a phan yn un-ar-ddeg oed symudodd y teulu i Gilgerran. Mynychodd Ysgol Ramadeg Aberteifi, graddiodd mewn Daearyddiaeth yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth ac ar ol dilyn cwrs Tystysgrif Addysg bu'n astudio Diwinyddiaeth yng Ngholeg Llambed. Cafodd ei ordeinio i'r weinidogaeth sanctaidd ar ddydd San Pedr 1968. Treuliodd ei guradaeth yn Aberystwyth ac fe'i gwnaed yn Rheithor plwyf Llangeitho yn 1972. Yn 1981 daeth yn ficer Llannon a'r Tymbl, a symud i Landybie yn 1995. Bu'n Ganon cadeirlan Tyddewi ers 1992 ac mae'n un o ddewiswyr taleithiol yr Eglwys yng Nghymru.
Yn fawr ei barch gan bawb sy'n ei adnabod mae'r Canon yn arweinydd arbennig i ddod a phobl i adnabod Duw ac i dderbyn iachawdwriaeth trwy Iesu Grist. Mae'n debyg y bydd yn cael ei gadw'n brysur ym mhulpudau gwag eglwysi a chapeli'r cylch a bydd hyn wrth ei fodd er mwyn parhau i ledaenu'r Newyddion Da.

Yn ystod gwasanaeth teuluol bore Sul 25ain Ionawr cyflwynwyd tystebion ac anrhegion i'r Canon a'i wraig Morfudd gan wardeniaid eglwys y Santes Dybie, Cor yr Eglwys, yr Ysgol Sul ac Undeb y Mamau. Hefyd cawsant roddion gan eglwysi Llandyfan a St Marc, Glwb Radio Llandybie ac anrhegion, cardiau a dymuniadau da oddi wrth nifer fawr o gyfeillion yn y gymuned leol.
Fe welwn eisiau'r Canon yn Llandybie, gyda'i ddysgeidiaeth a'i bregethau ysbrydol o'r Ysgrythurau a'i gyfeillgarwch ef a Morfudd. Atgoffodd ni, yn ei lythyr olaf i'r plwyfolion, ein bod fel pobl meidrol wedi cael ein galw i weinidogaethu ymhlith pobl meidrol, ac fe allwn mewn cariad ac amynedd adeiladu ein gilydd i gyflawni pwrpas Duw yn ein bywydau er gogoniant Ei enw mawr.
Dymunwn pob bendith a hapusrwydd iddynt yn eu cartref newydd yn Rhydaman.

No comments:

Help / Cymorth