Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

26.4.09

CYLCH CINIO RHYDAMAN

Hyfryd oedd i ni gael cwmni’r Prifardd John Gwilym Jones, Peniel yn ein Cinio Gŵyl Dewi a gynhaliwyd yn y Mountain Gate, Tycroes nos Iau, Mawrth 5ed. Brodor o Gastellnewydd Emlyn ac yn un o dri brawd enwog Parc Nest yw ein gwestai. Wedi cyfnod byr yn weinidog yn y Tymbl Uchaf symudodd y Parch. John Gwilym Jones i Fangor lle y treuliodd ddeugain mlynedd yn weinidog ar gapel Pen-dre. Yn y cyfnod hyn bu’n darlithio yn y Brifysgol yno ac yn Arholwr gyda’r Cyd-bwyllgor Addysg. Enillodd y gadair yn Eisteddfod Maldwyn a’r Cyffuniau yn 1981. Bu’n Archdderwydd rhwng 1993 a 1996 ac mae nawr yn Gofiadur Gorsedd y Beirdd yn olynydd i’r Prifardd Jâms Nicolas.

Soniodd y Parch. John Gwilym Jones am y gwahaniaethau rhwng geirfa’r Gogledd a’r De. Er iddo dreulio deugain mlynedd yn y Gogledd roedd ei eirfa a’i acen yn dal i fod fel brodor o’r De. Mae’n rhyfedd fel mae gwahanol ystyr i ambell air rhwng y Gogledd a’r De ac hefyd y pwyslais ar ambell sillaf o fewn gair yn wahanol rhwng y Gogledd a’r De.

Llywyddwyd y noson gan Alun Richards, Tycroes ac ef a groesawodd y gwragedd a’r ffrindiau a oedd wedi dod ynghyd ar yr achlysur arbennig hwn. Offrymwyd y gras bwyd gan Calvin Davies, Rhydaman ac fe ddiolchwyd i’r prif westai am ei anerchiad diddorol dros ben gan y Parch. Dyfrig Rees, Tycroes.

No comments:

Help / Cymorth