Cynhaliwyd Eisteddfod ein Nawddsant yn Ysgol y Bedol ar ddydd Gwener, y 27ed o Chwefror. Wedi cael croeso twymgalon gan y Brifathrawes, Mrs Donna Williams, fe ddechreuwyd ar y cystadlu gyda chanu gan unigolion, corau a phartion, ac adrodd gan unigolion o safon uchel dros ben. Yr oedd pedwar llys yn cystadlu yn erbyn ei gilydd a chafwyd hwyl fawr. Arweinyddion y dydd oedd Mr Gareth James a Mr Cefin Campbell. Y beriniaid ar y canu oedd Mr Ian Llewellyn a Mrs Marjorie Rodgers, a’r beirniaid adrodd oedd Mrs Marlene Thomas a Mrs Mair Wyn. Y gyfeilyddes oedd Ms Elen Lord-Rees. Tynnwyd lluniau yn ystod y dydd gan y ffotograffydd amryddawn, Mr Adrian Thomas. Diolch o galon Adrian, ac mae eich lluniau o hyd o’r ansawdd uchaf.
Uchafbwynt y prynhawn oedd y Cadeirio yng nghofal Mrs Mair Wyn a’r enillydd eleni oedd disgybl Blwyddyn Chwech sef Jessica.
Roedd cyn-brifathrawon ysgolion Cwmaman yn bresennol am gyfnod yn y prynhawn a chawsant amser braf iawn yn yr Eisteddfod. Yna fe’u gwahoddwyd i achlysur arbennig iawn gan y Brifathrawes pan fu’r Cynghorwr Dafydd Wyn, Maer Cwmaman, a’r Cynghorwr Sir, Kevin Madge, yn rhoi anerchiad i gyn-Brifathrawon ysgolion Cwmaman, sef Ysgol Gynradd Glanaman, Ysgol Babanod y Twyn ac hefyd Ysgol Gynradd y Garnant. Dadorchuddiodd y Maer y Plac gydag enwau’r holl gyn- Brifathrawon arno a diolchodd o galon am eu llafur caled dros y ganrif. Diolch yn fawr iawn i Mr Darrell Campbell hefyd am wneud y plac yma ac y mae’n bleser i’w weld yng nghyntedd Ysgol y Bedol. Cafwyd bwffe ardderchog a diolchwn i bawb a fu wrthi yn ei baratoi. Mae’n dyled yn fawr i’r Brifathrawes, Mrs Donna Williams a Staff Ysgol y Bedol. Yr oedd yn bleser bod yn bresennol a dymunwn bob hwyl i’r dyfodol.
No comments:
Post a Comment