Yng nghyfarfod mis Mawrth, y cyntaf eleni, o achos y tywydd anffafriol, dywedodd y Llywydd Mr Morlais Pugh, ei fod a chwant dymuno ‘Blwyddyn Newydd Dda’ i’r aelodau! Pasiwyd yn unfrydol i ail ethol Mr Morlais Pugh yn Llywydd, a chytunodd yr ysgrifennydd Mr Clive Pritchard a’r trysorydd Mrs Enid Evans i barhau yn eu swyddi. Llongyfarchiadau a diolch yn fawr i’r tri.
Croesawodd y Llywydd Brif Athro’r Ysgol Gynradd Gymraeg ar y Waun, Mr K. Morgan a Mrs S Rees un o’r athrawon, a rhai o ddigyblion yr ysgol atom. Cawsom amrywiaeth o eitemau gan y plant o ganu, adrodd, unawdau ar offerynnau a dawnsio disgo. Cyflwynodd Mr Morgan Cerys Haf Smith i ni, hi oedd yn fuddugol ar ennill y gadair, a hynny am yr eilwaith.. Mae’n debyg taw dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd yn hanes yr ysgol. Llongyfarchiadau a diolch yn fawr iddi hi ac i’r plant i gyd am ein diddannu. Roedd pawb yn amlwg wedi mwynhau a dyna oedd testun sawl sgwrs yn y pentref drannoeth eu hymweliad. Gobeithio y gellir ei wneud yn achlysur blynyddol. Diolchwyd yn gynnes iddynt gan y Llywydd.
Mae Cerys yn ferch i Geraint a Gail Smith Heol Llwyn, ac yn wyres i Morfydd a Lyn Smith Heol Cae Gurwen, a Linda a Martin Evans Heol y Barri.
No comments:
Post a Comment