Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

19.4.09

DATHLU GWYL EIN NAWDDSANT


Bore Sul, Mawrth 1af, cynhaliwyd gwasanaeth arbennig ym Methesda i ddathlu Gwyl ein Nawddsant. Gwnaethpwyd hynny eleni yng nghwmni’r plant ac aelodau ffyddlon yr Ysgol Sul. Mrs Ann Rowntree, athrawes Ysgol Sul gydwybodol ac aml ei doniau, a fu wrthi’n paratoi rhaglen ar ein cyfer. Croesawyd ni’n gynnes i’r gwasanaeth gan Lywydd yr Ysgol Sul, Mrs Yvonne James. Cawsom y fraint o ganu un o emynau mawr Elfed i ddechrau’r oedfa, “Cofia’n gwlad benllywydd tirion”. Rhag amharu dim ar naws y gwasanaeth, gwnaethpwyd y cyhoeddiadau a’r diolchiadau ymlaen llaw gan Mrs Mair Hughes, Ysgrifenyddes Gohebol y Capel. Carys a Ffion Jenkins, yr efeilliaid, oedd y casglyddion.
Wedi gwrando ar y Côr Plant yn canu “Cofio heddiw a wnawn ni’r plant” a Cerys Phillips yn adrodd “Fe gofiwn Fawrth y Cyntaf”, cawsom y fraint o glywed hanes diddorol Dewi Sant gan Ann Rowntree. Cenhadwr o fynach Cymreig a dysgedig a anwyd yn y chweched ganrif oedd ein Nawddsant ni, gŵr o ymroddiad godidog. Fe sefydlodd gymdeithas fawr o eglwysi rhyddion yng Nghymru a chadwodd gysylltiad agos â’r gweldydd Celtaidd. Magwyd Dewi yn Henfynyw yng Ngheredigion ar lannau Aeron. Yn ôl llinach, perthynai i lawer o saint a thywysogion amlycaf Cymru.
Atgoffwyd ni o’r fynachlog yng Nglyn Rhosyn, lle cyfleus i’r saint o Lydaw, Cernyw, Iwerddon a’r Alban ymgynnull i foli Duw a thrafod pynciau llosg. Roedd Dewi fel ei gyfoedion yn athro da, ond pregethu’r gair oedd ei swyddogaeth gyntaf.
Soniodd Ann am “Fuchedd Dewi” gan Rygyfarch am y tir yn codi dan ei draed pan bregethai er mawr syndod i’r esgobion yn Llanddewi Brefi. Yn sicr dyma ffordd liwgar Rygyfarch o ddangos grym personliaeth ei arwr, dyfnder ei argyhoeddiad, nerth ei resymu, a dylanwad ei allu mawr fel pregethwr. Er mwyn dangos i ni neges Dewi Sant, y gŵr bywiog, cadarn, gostyngedig, dewisodd Ann dair ran o’r Testament Newydd i’w darllen wedi’r anerchiad sef Byddwch lawen – Mathew 5ed, (1-12) Cedwch ein ffydd a’ch cred – Hebreaid 11 (1-16) a Gwnewch y pethau bychain – Marc 10 (13-16). Darllenwyd yr adnodau gafaelgar hyn gan Rhian Jones, Mair Hughes ag Yvonne James.
Un o emynau Rhys Nicholas oedd ein hail emyn. “Dysg i ni garu Cymru”. Fel arwydd o’n parch a’n hedmygedd o waith a phersonoliaeth hyfryd ein diweddar gyfaill Mr Meirion Evans, manteisiodd Ann ar y cyfle i ddarllen penillion addas o’i waith yn y gwasanaeth arbennig hwn. Pleser mawr oedd gwrando ar y plant lleiaf yn canu “Dyn da oedd Dewi” ac yn cydadrodd “Daeth eto Fawrth y Cyntaf”. Offrymwyd gweddi fer gan Mair cyn i’r plant ganu “Dewi Sant” ac i bawb uno i ganu emyn Dave Bilbrough, cyfieithiad Catrin Alun a Sion Aled “Dyro dy Gariad i Gymru”. Yr organyddes oedd Mrs Rhian Jones a’r cyfeilydd oedd Mrs Ann Rowntree.
Diolch o galon i Mrs Sadie Rees am yr adroddiad hyfryd yma ac hefyd i Mr Arwyn Rowntree am dynnu’r llun. Gwerthfawrogaf hyn yn fawr.

No comments:

Help / Cymorth