Diwrnod prysur iawn oedd Dydd Gwyl Dewi. Yn y bore cynhaliwyd Oedfa'r Bore gan aelodau'r Ysgol Sul. Diolch i'r arolygyddes Ruddwen Mainwaring am baratoi'r plant. Hyfryd oedd gweld y capel wedi ei addurno gyda blodau'r gwanwyn a hefyd y plant yn eu gwisgoedd Cymreig.
Yn y prynhawn aeth aelodau'r Ysgol Sul i ymweld a chartref Tegfan. Cafwyd croeso twymgalon yno. Gillian Tannock oedd wrth y piano a'r organ.
Aeth 16 o aelodau Noddfa i Tabernacl Llanelli i'r Gymanfa Ganu o dan ofal Catrin Hughes ar gyfer y rhaglen deledu Dechrau Canu Dechrau Canmol. Darlledwyd y rhaglen ar Nos Sul 19 Ebrill a 28 Mehefin.

No comments:
Post a Comment