Diwrnod pwysig yng nghalendr yr Ysgolion Sul yng Ngogledd Myrddin yw’r cystadlaethau chwaraeon blynyddol. Cynhaliwyd y cystadlaethau eleni ar wythnos gyntaf gwyliau’r Pasg a daeth tyrfa dda ynghyd i Ganolfan Hamdden Rhydaman i fwynhau’r achlysur. Yn ôl yr arfer bu cystadlu brwd, a gwych oedd gweld y plant a’r bobl ifanc yn rhoi o’u gorau wrth chwarae pêl droed a phêl rwyd. Yn ychwanegol i’r cystadlaethau yn y neuadd, manteisiodd nifer oedd o dan 16 oed ar y cyfle o gael nofio yn rhad ac am ddim yn y pwll. Diwrnod penigamp felly i bawb, ac i’r sawl wnaeth ennill, wel roedd hynny yn fonws!
Dyma’r canlyniadau:
Pêl Droed Cynradd:
1af – Moriah, Brynaman
2ail – Saron
Pêl Rwyd Cynradd:
1af – Clwb Hwyl Hwyr, Rhydaman
2ail – Penuel, Caerfyrddin / Capel Hendre
Pêl Droed Uwchradd:
1af: Saron / Capel Hendre
2ail: Eglwysi Cylch Aman
Llongyfarchiadau mawr i'r timoedd uchod ac i bawb wnaeth gymryd rhan a chyfrannu tuag at ddiwrnod llwyddiannus iawn i Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol y dalgylch. Y gweithgaredd nesaf a drefnir gan y Fenter uchod fydd “Bwrlwm Bro” yr Ysgolion Sul a gynhelir yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman 10:30 a.m.
Ar nos Fercher Gorffennaf 8fed cynhelir noson mabolgampau dan do yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman gyda chystadlaethau i bawb o’r meithrin hyd at blwyddyn 11.
Manylion pellach am yr uchod a digwyddiadau eraill ar gael trwy gysylltu â Nigel Davies (Swyddog Plant / Ieuenctid Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin) ar (01994) 230049 neu e-bost gogmyrddin@uwclub.net
No comments:
Post a Comment