Fe aeth parti o 14 o Gôr Merched Lleisiau’r Cwm, dan arweiniad medrus Catrin Hughes, i’r Wyl Geltaidd a gynhaliwyd yn Donegal yn Iwerddon ganol mis Ebrill. Cawsant hwyl ar y daith gan hedfan o faes awyr Caerdydd i Belffast ac yna teithio mewn bws i Donegal (a diolch o galon i Llinos a Delyth am yrru mor ofalus yn yr Iwerddon). Buont yn aros mewn gwesty moethus gyda Sian, gynt o Gymru, a Michael ei gŵr ac maent yn ddiolchgar iawn i Priscilla am wneud y trefniadau yma. Y nos Wener hynny, cafwyd hwyl arbennig yn y Noson Lawen, cyflwynwyd y parti gan Mair ac roedd y canu o safon arbennig. Yna, ar y dydd Sadwrn, bu’r parti yn cystadlu, gyda phartion o Gymru, Iwerddon a’r Alban yn cymeryd rhan. Clodforwn y parti am ddod yn ail yn y categori partion ac ennill yr ail wobr o 300 o Ewros. Diolch hefyd i Eireen am drefnu’r awyren a’r bws ac hefyd yr ochr ariannol inni. Yr oedd pawb wrth eu bodd ac unwaith eto braf oedd cael datgan bod y parti o Gwmaman wedi llwyddo mor anrhydeddus. Diolch Catrin am ein dysgu.
No comments:
Post a Comment