Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

3.5.09

YSGOL Y WAUN - EISTEDDFOD FLYNYDDOL


Dydd Gwyl Dewi ar Fawrth yr ail? Dyna sut fu pethau mewn sawl ysgol eleni -am i Fawrth 1 o gwympo ar ddydd Sul. Ac yn Ysgol Gwaun-Cae-Gurwen, roedd hi' n amser unwaith eto i'r eisteddfod flynyddol.
Mae'n draddodiad erbyn hyn ers sawl blwyddyn i gynnal eisteddfod ysgol a chafwyd tipyn o flas ar y cystadlu eleni eto. Roedd y cystadlaethau arferol wrth gwrs o ganu a llefaru a'r testunau'n adnabyddus fel hen ganeuon traddodiadol fel, "Mynd drot, drot," a "Hen fenyw fach Cydweli" i'r cantorion a hen ffefrynnau fel "Hicyri, dicyri doc," a "Dyn y tywydd" ar gyfer y llefarwyr. Eleni eto, cafwyd cystadleuaeth unawd offeryn pres ac, am y tro cyntaf, cystadleuaeth unawd ar y drymiau.
Y beirniaid eleni oedd Miss Nicola Hemsley, sy'n gyn-ddisgybl a Mr Eifion Price sy'n gyn-ddirprwy brifathro ar yr ysgol. Cafodd y ddau dipyn o hwyl arni a chafwyd sawl cystadleuaeth oedd yn agos ac anodd iawn i ddewis pwy oedd flaenaf.
Ond uchafbwynt yr eisteddfod bob blwyddyn, wrth gwrs, yw seremoni'r cadeirio a doedd eleni ddim yn wahanol. Mr Price oedd yn beirniadu ac roedd yn uchel iawn ei glod i'r nifer da a gynigiodd. Cystadleuaeth ysgrifennu stori ar y testun, "Cyrraedd y Copa ' " oedd hi ac wedi darllen drwy 27 o storiau, daeth Mr Price i'r casgliad fod saith wedi codi i'r safon flaenaf ac y gallai wobrwyo unrhyw un o bedair stori.
Ond wedi hir ystyried yr un a ddaeth i'r brig oedd stori, "Croten Cwmgors." Stori oedd yn afaelgar ac yn cynnal diddordeb y darllenwr. Am y tro cyntaf erioed, cipiwyd y wobr gan yr un person am yr ail flwyddyn o'r bron. Yn fuddugol oedd Cerys Smith a enillodd y llynedd hefyd.
Llongyfarchiadau mawr iawn i Cerys ac i bawb gystadlodd. Diolch o galon i'r beirniaid, y staff, i bawb fu wrthi'n darparu lluniaeth, pawb fu'n dysgu'r plant ac yn enwedig i bawb drodd i mewn i gefnogi. Ond mae'r diolch mwyaf i'r plant am eu hymdrechion. Da iawn, wir.

No comments:

Help / Cymorth