Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

22.7.09

Cyfarfod Sefydlu y Parch. Dennis Alexander Baxter

Cynhaliwyd oedfa sefydlu’r Parch. Dennis Baxter yn Offeiriad â Gofal am Blwyf Llanedi a Tycroes gyda Saron yn Eglwys Sant Edmwnd, Tycroes ar Nos Fercher, Mehefin 10fed, 2009.
Mae Dennis yn wreiddiol o Dagenham, Swydd Essex ond bellach wedi byw yng Nghymru ers 29 o flynyddoedd. Fe gyfarfu â’i wraig Jennifer, brodor o Benfro, yn Hwlffordd ac maent wedi bod gyda’u gilydd am chwarter canrif. Mae ganddynt bump o blant a phump o wyrion a theulu estynedig niferus.
Cyn ei ordeinio yn yr Eglwys yng Nghymru bedair blynedd a hanner yn ôl bu Dennis yn ofalydd cymunedol ac yn weinidog mewn eglwys Bentecostalaidd. Bu’n gurad yn Ninbych y Pysgod cyn cymeryd at yr ofalaeth hon.
Mi roedd y gwasanaeth sefydlu o dan arweiniad Archddeacon Caerfyrddin, yr Hybarch Alun Evans ac yn cael ei gynorthwyo gan Ddeon Cylch Dyffryn Aman, y Parch. Michael Lloyd Rees. Mi roedd nifer o weinidogion lleol ynghyd â chlerigwyr o Ddinbych y Pysgod yn bresennol yn y gwasanaeth.
Cyflwynwyd cyfarchion i’r Parch. Dennis Baxter gan gynrychiolwyr o wahanol agweddau o waith y plwyf gan gynnwys cynghorwyr lleol, prifathrawon a mudiadau cymdeithasol.
Mi roedd yna gynulleidfa niferus yn bresennol gan gynnwys dros ugain o deulu’r offeiriad newydd ac fe gafwyd gwasanaeth bendithiol. Paratowyd bwffet blasus yn Neuadd yr Eglwys wedi’r oedfa.
Dymuna’r Parch. a Mrs. Dennis Baxter ddiolch i bawb a fu o gymorth i wneud y noson mor llwyddiannus. Edrychant ymlaen at gwrdd pobl yr ardal a gwneud ffrindiau newydd gan obeithio treulio nifer o flynyddoedd yn y fro ac fe estynna Dennis a Jennifer groeso cynnes i bawb a garai uno mewn addoliad yn y Plwyf. Eu rhif ffôn yw (01269) 592315.

No comments:

Help / Cymorth