Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

10.7.09

Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman

Cynhaliwyd cinio mis Mai Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman yn y Ganolfan Aman, Rhydaman, Nos Iau, Mai 7fed dan lywyddiaeth Alun Richards, Tycroes. Y prif westai oedd y Parchg Ddr Vivian Jones, Yr Hendy. Brodor o’r Garnant yw Dr Jones. Graddiodd yn y Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor ac mewn Diwinyddiaeth yng Ngholeg Bala-Bangor. Bu yn weinidog ar eglwysi’r Onllwyn, Pentre Estyll a’r Alltwen cyn derbyn galwad i fod yn ben-weinidog ar Eglwys Plymouth, Minneapolis, ail eglwys fwyaf yr Annibynwyr yn yr Unol Daleithiau. Bu yno am
bymtheg mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwn fe dderbyniodd gradd Doethur gan Goleg Diwinyddol Unedig Minneapolis.
Doethineb oedd ei destun ac fe gafwyd darlith ysgolheigaidd ar y pwnc dyrrus hwn. Diolchwyd iddo gan ei ffrind, Hywel Davies, Y Betws.
Erbyn bydd y rhifyn hwn wedi ymddangos mwy na thebyg fe fydd y ginio nesaf a gynhelir yn y Ganolfan Aman, Rhydaman, Nos Iau, Mehefin 4ydd pryd y bydd Gwyn Elfyn, Pontyberem (Denzil yn ‘Pobol y Cwm’) yn brif westai wedi cymeryd lle. Cynhelir cinio ola’r tymor yn y Ganolfan Aman, Rhydaman, Nos Iau, Gorffennaf 2ail yn brydlon am 7.15 o’r gloch pryd y bydd brodor o’r Betws, Arwel Fowler, Drefach, yn brif westai. Croesewir aelodau hen a newydd i ymuno â ni.
Cysylltwch â’r ysgrifennydd Elfryn Thomas – ffôn (01269) 593679 – am ragor o wybodaeth.
I chwi sydd â diddordeb yng Nghriced fe gynhelir Dydd Cylchoedd Cinio y De ar Faes Sant Helen, Abertawe, Ddydd Iau, Awst 20fed – diwrnod cyntaf y gêm sirol rhwng Morgannwg a Swydd Middlesex. Y pris yw £35 sydd yn cynnwys tocyn mynediad i’r President’s Enclosure, carden sgorio â chinio tri chwrs a te yno a chyflenwad o de neu goffi drwy’r dydd. Mae bar preifat yno hefyd. Os carech fynd rhowch wybod i’r ysgrifennydd mewn da bryd gan y mae’n rhaid bwcio’r tocynnau o leiaf mis cyn y dyddiad.

No comments:

Help / Cymorth