Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

4.8.09

FFRINDIAU YSBYTY DYFFRYN AMAN

Cafwyd noson goffi hyfryd iawn yn ddiweddar yn Ysbyty Dyffryn Aman i godi arian i’r achos teilwng hwn. Croesawyd pawb gan y Cadeirydd, sef Mr Iwan Lewis, Brynaman, a gyflwynodd y Parchedig Lyn Rees, Saron, Caplan yr Ysbyty. Diolchwyd i’r Brif Nyrs, Catrin Madge, a’i staff am eu paratoadau ar gyfer y noson. Yr oedd y lluniaeth o’r safon flaenaf a mwynhawyd gan bawb a oedd yn bresennol. Tynnwyd y raffl gan Ddirprwy Faer Cwmaman, sef Mr Brian Twomey, ac y mae’r gwobrau wedi cael eu dosbarthu.
Hoffau’r pwyllgor ddiolch i bawb a gyfrannodd i’r noson ac i’r bobl hynny a gyflwynodd rhoddion hael. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r Pwyllgor a fyddech gystal a chysylltu â’r Ysgrifenyddes, sef Mrs Dilys Richards, 86 Heol Tirycoed, Glanaman a rhif ffôn Dilys yw 01269 823397. Byddai’n falch o glywed wrthych.

No comments:

Help / Cymorth