Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

4.8.09

PWYLLGOR DEILLION CWMAMAN

Hoffai’r pwyllgor ddiolch o galon am y casgliadau o dŷ i dŷ a ddigwyddodd yn ddiweddar. Codwyd y swm o £730.85, ac y mae hyn yn glod i’r ardal. Mae’n rhaid diolch yn bennaf i Mrs Janice Thomas sydd yn Gadeirydd Weithredol, Trysorydd ac hefyd yn Ysgrifenyddes y Gangen yn y Cwm, am ei gwaith clodwiw a di-rwgnach yn cadw trefn ar bopeth a phawb ohonom sydd ar y pwyllgor. Mae Janice wedi bod wrthi am dros 23 o flynyddoedd. Diolch yn fawr iawn iddi am y gorchestwaith yma. Cyflwynir rhoddion gan y Gangen i’r Rhannol Ddall bedair gwaith y flwyddyn ac hefyd maent yn derbyn swm sylweddol pob Nadolig. Mae’r pwyllgor yn edrych ymlaen i godi mwy o arian i’r bobl hynny sydd wedi colli ei golwg. Hyfryd yw cofnodi bod y pwyllgor yn derbyn hyd at 37 o wobrau raffl pob blwyddyn a diolchwn i chwi oll am eich haelioni. Parhaed y gwaith pwysig hwn yn y Cwm am flynyddoedd eto i ddod.

No comments:

Help / Cymorth