Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

2.8.09

Ymlaen â’r sioe!

Sêr S4C yn lansio ymgyrch leol i dynnu sylw at y newid i ddigidol
Bu dau o gyflwynwyr teledu mwyaf poblogaidd Cymru ar y strydoedd dydd Gwener 10 Gorffennaf yng nghwmni perfformwyr syrcas cyfoes i roi sylw i’r newidiadau sylweddol sydd ar fin taro’r tonfeddi.
Ymunodd Angharad Mair, sy’n cyflwyno’r rhaglen gylchgrawn Wedi 7, a Morgan Jones, y cwisfeistr, gohebydd pêl-droed a chyflwynydd, ag aelodau o NoFit State Circus i godi ymwybyddiaeth o’r newid i ddigidol a’r ffaith mai dim ond rhaglenni Cymraeg fydd ar S4C wedi’r newid.
Ar hyn o bryd mae rhaglenni Saesneg gan Channel 4 yn cael eu darlledu ynghyd â’r rhaglenni Cymraeg ar S4C. Ar ôl y newid i ddigidol, sy’n cychwyn yng Nghymru yn mis Awst, bydd S4C yn llwyr yn y Gymraeg a chaiff holl gynnwys Channel 4 ei ddarlledu ar wahân.
I hysbysu gwylwyr sut i dderbyn S4C ar ôl y newid i ddigidol, mae’r Sianel yn cynnal ymgyrch wybodaeth helaeth ym mhob rhan o Gymru dros y misoedd i ddod.
Mae hyn yn cynnwys sioe deithiol i hysbysu cymunedau lleol am y newidiadau a beth sydd angen iddynt wneud i barhau i dderbyn rhaglenni Cymraeg. Mae’r ymgyrch yn cynnwys gweithdai ar sgiliau syrcas er mwyn denu gwylwyr o bob oedran i glywed am y newidiadau. Mae'r sioe yn dod i Gwmaman.
I lansio ymgyrch wybodaeth newydd S4C, ‘Ymlaen â’r Sioe’, bu Angharad a Morgan yn profi eu sgiliau cydlynu drwy jyglo a cherdded ar raff gydag ychydig o help gan berfformwyr NoFit State Circus.

Bydd y cyflwynydd adnabyddus Sarra Elgan a’r digrifwr Tudur Owen yn ymuno ag Angharad Mair a Morgan Jones i gyflwyno’r ymgyrch a byddant yn cymryd rhan mewn gweithdai ym mhob rhan o’r wlad.
Pwysleisiodd Tim Hartley, Pennaeth Materion Corfforaethol S4C, fod y Sianel yn barod ar gyfer y newidiadau i ddod – gan ddod am y tro cyntaf yn sianel yn llwyr ar gyfer rhaglenni Cymraeg. http://www.s4c.co.uk/dso/c_index.html

No comments:

Help / Cymorth