Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

11.8.09

Taith S4C yn Abertawe i helpu trigolion gyda'r newid digidol

Mae S4C yn gwahodd trigolion ardal Glo Man i ymuno â'u taith ddyfeisgar o gampau'r syrcas er mwyn dysgu mwy am y newid digidol.

Taith gyda llu o enwogion yw Ymlaen â'r Sioe! sy'n gyfres o arddangosfeydd sgiliau syrcas a gweithdai agored yn rhad ac am ddim. Daw'r sioe hon i Abertawe yn gynnar ym mis Medi er mwyn helpu trigolion i ddeall y newidiadau sylweddol sydd ar fin digwydd ar yr awyr.

Fydd un o gyflwynwyr mwyaf adnabyddus Cymru, seren Wedi 7 Angharad Mair yn arwain y daith yn ardal trosglwyddydd Kilvey Hill.

Mi fydd y sioe yng Ngerddi Sgwâr y Castell, yng nghanol ddinas Abertawe, rhwng 12 a 3 o'r gloch ar ddydd Mawrth 1 Medi, ac ym mharc Margam rhwng 12 a 3 o'r gloch ar ddydd Mercher 2 Medi. Cofiwch sôn am S4C ac Ymlaen â'r Sioe! wrth fynedfa Parc Margam a chewch fynediad AM DDIM! Cynhelir gweithdai dyddiol rhwng Dydd Iau, Medi'r 3ydd a dydd Llun, Medi'r 7fed, mewn gwahanol fannau yn ardaloedd Abertawe a Chastell Nedd.


Nod y daith yw helpu cymunedau Cymru i baratoi ar gyfer y newid digidol.

Bydd perfformiadau rhad ac am ddim, gydag aelodau o gwmni syrcas adnabyddus NoFit State Circus, yn cyflwyno gwybodaeth allweddol i drigolion am y newid. Yn y cyfamser, bydd gweithdai campau syrcas yn rhoi cyfle i'r cyhoedd roi tro ar gampau'r syrcas – oherwydd, yn y bôn, os gallwch ddysgu jyglo, bydd y newid i ddigidol yn rhwydd! Dewch draw, ymunwch, a phrofwch drosoch eich hunain!

O'r 9fed o fis Medi 2009, bydd rhaid i wylwyr sicrhau bod eu teledu'n gallu derbyn signal digidol neu bod ganddynt 'flwch digidol pen teledu pwrpasol. Bydd rhaid i wylwyr Freeveiw ail-diwnio eu teledu neu flwch pen teledu er mwyn parhau i fwynhau rhaglenni S4C.


Gorllewin Cymru fydd yr ardal gyntaf i newid. Bydd trosglwyddydd Kilvey Hill, ardal Abertawe; Preseli, sy'n darparu gwasanaeth i dde a gorllewin Cymru; a Charmel, sy'n gwasanaethu ardaloedd yng nghanolbarth a dwyrain Cymru, yn newid ym mis Awst a mis Medi.


Mae'r newid digidol yn golygu newidiadau mawr i'r sianel. Hyd yn hyn, mae rhaglenni Cymraeg S4C wedi ymddangos ochr yn ochr â rhaglenni Saesneg Sianel 4. Yn dilyn y newid Digidol, a ddaw i rym yng Nghymru ym mis Awst, bydd S4C yn gwbl Gymraeg a bydd cynnwys Sianel 4 yn cael ei ddarlledu ar wahân.

Mae S4C yn cydweithio'n agos gyda Digital UK, y corff annibynnol sy'n gyfrifol am oruchwylio'r newid digidol, i roi cyngor i drigolion ar yr hyn y dylent wneud er mwyn derbyn a chynnal signal.

Bydd Ymlaen â'r Sioe yn teithio i ardaloedd ledled Cymru gyda'i chriw o berfformwyr o syrcas gyfoes NoFit State Circus. Yn ymuno â nhw bydd rhai o sêr blaenllaw S4C, fel cyflwynydd Wedi 7, Angharad Mair, cwisfeistr, y gohebydd pêl-droed a'r cyflwynydd, Morgan Jones, y perfformiwr comedi Tudur Morgan a’r cyflwynydd Sarra Elgan.

Bydd y sioeau a'r gweithdai'n helpu cyfleu newidiadau a rhinweddau'r newid digidol. Caiff gwylwyr gyfle i holi sut bydd y newid yn eu heffeithio nhw, a beth sydd angen iddynt ei wneud er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwylio eu hoff raglenni ar S4C o hyd. Hyn oll wrth dysgu camp syrcas newydd!

Bydd ymgyrch deledu, gyda sêr S4C a'u campau syrcas, yn cael ei darlledu trwy gydol y cyfnod cyfnewidiol.

No comments:

Help / Cymorth