Dechreuwyd y noson drwy gynnal rasus y plant lleiaf, sef meithrin, derbyn a blwyddyn 1 a 3. Ymysg y cystadleuthau maes roedd taflu pêl am yn ôl, naid hir, neidio cyflym, taflu pwysau, a naid driphlyg.
Roedd y noson yn lwyddiant ysgubol ac yn wir fwrlwm gyda’r plant yn mwynhau’r noson yn arw. Unwaith eto diolch i Mr Nigel Davies am drefnu’r holl noson.
Yna cawsom Barti Dathlu Menter Cyd Enwadol Gogledd Myrddin yn Neuadd Gellimanwydd. Cyfle i ddathlu tair mlynedd o waith diflino Mr Nigel Davies, Swyddog Ieuenctid y Fenter oedd y noson yn bennaf. Hyfryd oedd gweld y neuadd yn llawn. Cawsom air o groeso gan Gadeirydd y Fenter, sef Mr Mel Morgans. Yna aeth pawb at y byrddau i ddewis eu bwyd allan o’r bwffe arbennig. Wedi i bawb lenwi eu boliau a chael cyfle i gymdeithasu cawsom ein diddannu, yn blant, ieuenctid ac oedolion gan Rosfa’r Consuriwr, sef y Parchg Eirian Wyn, Gweinidog Seion Newydd, Treforus.
Cyflwynwyd rhodd i Mr Nigel Davies am ei waith a blodau i Mrs Sian Davies, ei briod. Dymunwyd yn dda i Nigel Davies yn y dyfodol pan mae’r Fenter yn ehangu i fod yn Fenter Cydenwadol Sir Gaerfyrddin. Bydd yn fwy prysur nag erioed yn calonogi gwaith Ysgolion Sul y Sir trwy roi cyfle llawn hwyl i blant gymdeithasu a dysgu yng nghwmni ei gilydd a chyflawni amcan yr Ysgol Sul o gyflwyno efengyl Iesu Grist mewn ffordd syml, ddealladwy a pherthnasol ar gyfer heddiw.
No comments:
Post a Comment