Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

4.10.09

YDYCH CHI’N ADNABOD UNRHWY UN?

Mae Glo Mân wedi derbyn y llun uchod oddi wrth Mr Hywel Jones, Caerdydd. Mae Hywel yn ceisio dod o hyd i rai o aelodau cerddorfa Ysgol Dyffryn Aman nôl ym 50au’r ganrif ddiwethaf. Roedd tad Hywel ar y pryd yn athro cerdd yn yr ysgol ac yn athro offerynnol yn yr ardal. Yn ddiweddarach aeth yn drefnydd cerdd Sir Benfro (60-70au). Fe yw’r gwr penfoel sy’n eistedd ar ochr dde’r prifathro, OJ Evans. Gethin Jones oedd ei enw a bu farw’n sydyn fis Hydref diwethaf yn 83 oed. Mr John Cale sydd yn y rhes gefn ar y chwith, ac o’i flaen mae’r Parch Enid Morgan (Roberts gynt)).
Os oes gan unrhyw un o ddarllenwyr Glo Mân unrhyw wybodaeth am unrhyw un yn y llun, neu atgofion am Tad Mr Jones byddai wrth ei fodd yn clywed amdanyn nhw. Os ydych yn adnabod unrhyw un gadewch i Edwyn Williams wybod neu cysylltwch yn uniongyrchol â Mr Hywel Jones ebost –
hywel.jones4@ntlworld.com Cyfeiriad – 4 Heath Halt Road, Caerdydd, CF23 5QF
Tadcu Hywel, sef tad ei fam oedd prifathro ysgol gynradd y dre ar yr adeg hon, John (Jac) Evans oedd ei enw ynte.

No comments:

Help / Cymorth