Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

6.10.09

Cyrraedd y targed

Eleni bu ymgyrch arbennig gan Eglwysi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg mewn cydweithrediad â Chymorth Cristnogol i godi swm o gwarter miliwn o bunnoedd tuag at anffodusion De Affrica. Nifer mawr ohonynt yn ddifreintiedig ac yn dioddef o HIV/Aids.
Gosodwyd targed o £12 yr aelod i’r eglwysi ac o ganlyniad disgwylid i Eglwys Moreia gyfrannu o leiaf £1,632 tuag at yr ymgyrch. Erbyn dechrau Mehefin roeddem wedi cyrraedd y nôd. Lansiwyd yr ymgyrch gyda Swper Cynhaeaf ym mis Tachwedd y llynedd a rhwng hwn a’r Cawl Gwyl Ddewi ym mis Mawrth gwnaed elw o bron £800. Daeth y gweddill oddi wrth
gyfraniadau’r aelodau. Llongyfarchiadau mawr i’r Eglwys ar ei hymdrech lew i helpu trigolion De Affrica

No comments:

Help / Cymorth